Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


16 Gorllewin Llansantffraid Gwynllwg


16 ardal gymeriad Gorllewin Llansantffraid Gwynllwg: tirwedd symlach, wedi'i gosod o fewn fframwaith o elfennau sydd wedi goroesi o'r dirwedd Rufeinig. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 100)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Mae prif elfennau'r dirwedd hon yn rhan o'r system a gynlluniwyd gan y Rhufeiniaid (ardal 17). Fodd bynnag, disodlwyd patrwm y caeau Rhufeinig i raddau helaeth yn y cyfnod canoloesol.

Ceir cyfeiriadau mewn dogfennau at borthladd bach yn Llanbedr o'r unfed ganrif ar bymtheg o leiaf. Mae'r enw lle Saesneg "New Quay Gout" yn awgrymu ei fod wedi'i leoli o bosibl yn Peterstone Pill.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Patrwm caeau rheolaidd o gaeau cul hir, ffiniau sylweddol yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig yn ôl pob tebyg, nodweddion draenio gan gynnwys Peterstone Gout, yr hen forglawdd, a nifer o gloddiau ffeniau (mae rhai cefnennau/draeniau agored hefyd wedi goroesi), rhai aneddiadau ymyl ffordd llinellol

Mae'r ardal dirwedd hon yn ymestyn dros yr ardal arfordirol uwch i'r dwyrain o Peterstone Gout. Mae'n ffinio ag ardal 15 i'r dwyrain a Maerdy (ardal 21) i'r gogledd.

Y prif elfennau yw dwy ffin yn rhedeg o'r gogledd-ddwyrain i'r de-orllewin sy'n barhad o elfennau yn y dirwedd Rufeinig i'r gorllewin. Fodd bynnag, mae'r blociau bach o gaeau cul hir rhwng y ffiniau hyn yn dyddio o'r cyfnod canoloesol ac nid y cyfnod Rhufeinig.

Tua'r gogledd i'r briffordd ceir nifer o ffiniau troellog sy'n cynrychioli episodau unigol o gau tir ar rostir agored y gefnffen; bwriedid i'r "cloddiau ffeniau" hyn atal dwr croyw o'r gefnffen isel rhag gorlifo'r hen diroedd amgaeëdig tua'r arfordir. Wrth ymyl y briffordd yn unig y ceir aneddiadau. Mae'r hen forglawdd ac adeiladwaith yr argae cerrig yn Peterstone Gout wedi'u cadw mewn cyflwr da.

Tirwedd ddiddorol ydyw, wrth ymyl yr ardal a foddwyd yn y cyfnod ôl-Rufeinig. Mae'n nodweddiadol o dirwedd Gwynllwg yn gyffredinol a nodweddir gan gaeau cul hir a'r broses o adfer ardaloedd is trwy gyfres o ffriddoedd a adferwyd o'r rhostir agored.

Effeithiwyd ar hanner gorllewinol yr ardal hon gan welliannau amaethyddol a'r gwaith a wnaed wrth adeiladu cwrs golff. Mae'r rhan fwyaf o'r gwrychoedd sydd wedi goroesi yn rhai prysglog, yn arbennig i'r de o bentref Llansantffraid Gwynllwg. Ymhellach i'r gorllewin ailfodelwyd y dirwedd ar raddfa fawr gan gwrs golff a fferm frithyllod. Er nad ydynt yn ymwthiol yn weledol, maent wedi dinistrio gwead hanesyddol y dirwedd trwy gael gwared â llawer o ffosydd a gafaelion.

At ei gilydd, mae cyfanrwydd a cydlyniant y dirwedd wedi'u cadw yn dda i'r gogledd/dwyrain, ond nid yw cystal i'r de/gorllewin o'r ardal hon. Mae'r ardal wedi dioddef o achos gwelliannau amaethyddol ac o ganlyniad i gwrs golff/cyfadeilad fferm frithyllod yn cael eu datblygu. Nid yw'r datblygiadau hyn yn ymwthiol yn weledol, ac o'r morglawdd ceir golygfeydd ardderchog o dirwedd agored. Erys y fframwaith o elfennau Rhufeinig yn gyfan.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk